[% IF cobrand.moniker == 'fixmystreet' %]
Cwestiynau Cyffredin |
O ble ddaeth yr adroddiad hwn?Gwefan annibynnol yw FixMyStreet, a adeiladwyd gan yr elusen mySociety i'w gwneud hi'n haws i ddinasyddion adrodd problemau eu cymuned. |
Pam mae'r adroddiad wedi dod i'r cyfeiriad e-bost hwn?Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau bod adroddiadau'n mynd i'r lle iawn ym mhob cyngor. Os oes cyfeiriad cyswllt gwell ar gyfer adroddiadau am broblemau [% report.category | html %], rhowch wybod os gwelwch yn dda. Gallwn hefyd ychwanegu neu ddileu categorïau yn ôl yr angen. |
Sut ydym ni'n ymateb i'r adroddiad hwn?Bydd ymatebion i'r e-bost hwn yn mynd yn syth i mewnflwch y sawl creodd yr adroddiad. Ni chyhoeddir eich ateb ar wefan FixMyStreet (oni bai eich bod yn defnyddio FixMyStreet Pro, a all arddangos ymatebion er mwyn lleihau adborth sy'n ailadrodd). |
Gallwch chi gynnwys mwy o wybodaeth yn yr adroddiadau yma?Os oes angen i chi dderbyn data ychwanegol nad yw wedi'i gynnwys yn yr adroddiad ar hyn o bryd, rhowch wybod beth sydd ar goll os gwelwch yn dda. |
Oes rhaid i ni dderbyn adroddiadau FixMyStreet?Lansiwyd FixMyStreet am y tro cyntaf yn 2007 er mwyn ymateb i'r nifer o gynghorau nad oedd yn cynnig gwasanaeth adrodd ar-lein hawdd i'w ddefnyddio. Mae llawer o drigolion yn parhau i ffafrio FixMyStreet oherwydd ei symlrwydd, ac oherwydd ei fod yn dileu'r angen iddynt wybod pa gyngor sy'n gyfrifol am ba broblem. Mae FixMyStreet yn gweithredu fel llwyfan adrodd cenedlaethol, gan ddod â'r holl awdurdodau lleol a sefydliadau'r llywodraeth ynghyd ar un system, gan frysbennu adroddiadau rhwng pob math o gynghorau, asiantaethau priffyrdd a chymdeithasau tai. Bellach, nid oes angen i awdurdodau lleol dderbyn adroddiadau e-bost gan FixMyStreet gan y gellir eu hintegreiddio i systemau busnes presennol y cyngor - ac mae yna foddau gwahanol o gyflawni hyn. |
Sut gall FixMyStreet gysylltu'n uniongyrchol â systemau'r cyngor?
Fel sefydliad elusennol, ein nod yw helpu gwella gwasanaethau awdurdodau lleol i ddinasyddion. I ddarganfod mwy am gyd-gysylltu FixMyStreet â'ch systemau eich hun, cysylltwch os gwelwch yn dda. |